#

Deiseb: Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487
Y Pwyllgor Deisebau | 13 Medi 2016
 Petitions Committee | 13 September 2016
 

 

 

 


Papur Briffio:

Rhif y ddeiseb: P-05-701

Teitl y ddeiseb: Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Testun y ddeiseb:

Yn dilyn digwyddiadau niferus ar hyd cefnffordd yr A487 yn enwedig rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, cyflwynaf ddeiseb i Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau ar hyd y ffordd arfordirol hon, yn cynnwys mannau pasio mewn amrywiol leoliadau, er mwyn lliniaru traffig yn cronni y tu ôl i gerbydau araf. Rwyf o’r farn y byddai cael mannau pasio wedi’u lleoli mewn lleoedd strategol yn lleihau rhwystredigaeth gyrwyr a chymryd risgiau wrth geisio goddiweddyd cerbydau eraill.

Pan fydd y gefnffordd hon rhwng Abergwaun a Chaergybi wedi’i chau o ganlyniad i ddigwyddiad, mae’r dargyfeiriad ar hyd isffyrdd a all fod yn hunllefus, yn enwedig pan fydd Cerbydau Nwyddau Trwm, bysiau a choetsis yn cwrdd â’i gilydd wrth ddod o gyfeiriadau gwahanol.

Cefndir

Mae cefnffordd yr A487 yn llunio rhan o’r rhwydwaith o gefnffyrdd rhwng y gogledd a’r de sy’n cysylltu Abergwaun yn Sir Benfro â rhannau gogleddol Cymru. Mae’n ymuno â’r A470 yn Cross Foxes ger Dolgellau, ac yn ailymddangos fel yr A487 i’r gogledd o Drawsfynydd. Mae map o rwydwaith cefnffyrdd Cymru ar gael yma.

Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A487. Mae’r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw a gweithredu’r rhwydwaith yn gorwedd gydag Asiant Cefnffyrdd De Cymru (Abergwaun i Aberteifi) ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (i’r gogledd o Aberteifi).

Mae gwefan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn disgrifio’r ffordd:

Mae'r A487 yn cario lefelau sylweddol o Gerbydau Nwyddau Trwm gydol y flwyddyn a thraffig twristiaid trwm yn ystod cyfnod yr haf a thraffig cymudwyr mewn ardaloedd lleol. Mae’r A487 yn darparu coridor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethu'r trefi a'r pentrefi cyfagos, busnesau gwledig, ysgolion a gweithgareddau hamdden.

Safon ffordd sengl sydd i’r rhan fwyaf o goridor yr A487.

Mae’r Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd, elusen yn y DU i leihau nifer y marwolaethau ar ffyrdd, yn bartner i’r Rhaglen Asesu Ffyrdd Ewropeaidd (EuroRAP), cymdeithas ryngwladol ddielw sydd â’r diben o hyrwyddo ffyrdd mwy diogel. Cyhoeddodd y Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd ganlyniadau blynyddol EuroRAP ar gyfer Prydain yn asesu diogelwch y ffyrdd, gan gynnwys map risg yn darparu asesiad o’u diogelwch. Mae adroddiadau blaenorol, gan gynnwys y rhai ar gyfer 2013, 2014 a 2015, ar gael ar wefan y Sefydliad.

Mae’r mapiau risg yn darparu graddfa risg pum lefel yn amrywio o ffyrdd risg isel i rai risg uchel, gan ddangos y risg ystadegol o farwolaeth neu anaf difrifol ar y ffordd. Mae’r Sefydliad yn disgrifio’r fethodoleg a ddefnyddir:

The risk is calculated by comparing the frequency of road crashes resulting in death and serious injury on every stretch of road with how much traffic each road is carrying. For example, if there are 20 crashes on a road carrying 10,000 vehicles a day, the risk is 10 times higher than if the road has the same number of collisions but carries 100,000 vehicles.

Yn 2013, aseswyd yr A487 fel ffordd risg canolig o dde-orllewin Cymru i Ddolgellau, ac fel ffordd risg isel-canolig ar gyfer gweddill y ffordd. Yn 2014, cynyddwyd y risg i ganolig i uchel i Ddolgellau, ac i risg canolig am weddill rhan ogleddol y ffordd. Mae’r map ar gyfer 2015 yn dangos bod y ffordd yn un risg canolig ar ei hyd.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn nodi targedau diogelwch ffyrdd y Llywodraeth a’r camau gweithredu cysylltiedig. Erbyn 2020, mewn perthynas â holl ffyrdd Cymru, mae Llywodraeth Cymru am weld yr hyn a ganlyn o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008:

§    40% yn llai o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

§    25% yn llai o yrwyr beiciau modur yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

§    40% yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

 

Mae’r fframwaith yn nodi “grwpiau agored i niwed” ac yn ystyried “achosion gwrthdrawiadau”, adeiladu “ffyrdd mwy diogel”, yn ogystal â dulliau gweithredu a threfniadau rheoli.  O ran “ffyrdd mwy diogel”, mae’n nodi’r hyn a ganlyn: “anogir awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael am wrthdrawiadau i ddatblygu mesurau peirianneg a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch ar y ffyrdd”.

 

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i “[g]yflawni’r camau gweithredu a nodwyd yn Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Cymru” hyd at “2020 a thu hwnt”, ac i ddarparu “rhaglen o welliannau diogelwch ar y ffyrdd y tu allan i ysgolion ar y gefnffordd”. Mae’r cynllun yn rhestru dau gynllun cefnffyrdd ar yr A487: y ffordd osgoi rhwng Caernarfon a Bontnewydd, a Phont Dyfi ar yr A487. Y bwriad yw i’r ddau gael eu cwblhau erbyn 2019. Ceir rhagor o wybodaeth am y ddau gynllun ar wefan y Llywodraeth. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn rhestru lleihau nifer y marwolaethau ymysg yr amcanion ar gyfer y naill brosiect a’r llall. Fodd bynnag, mae’r ddau i’r gogledd o Aberystwyth ac felly y tu allan i’r ardal a nodir fel blaenoriaeth benodol gan y deisebwyr.

 

Mae’r llythyr at y Cadeirydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynghylch y ddeiseb yn nodi bod cefnffyrdd canolbarth Cymru, gan gynnwys yr A487, yn cael eu harolygu i weld a ellir cyflwyno cyfleoedd i oddiweddyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi y bydd yr arolwg yn ystyried a yw trefniadau “2+1” yn bosibl, yn amodol ar gyllid, a bydd yn gallu cyflwyno’r canfyddiadau yn ddiweddarach eleni.

 

Mae ffordd “2+1” yn cynnwys dwy ffordd sy’n mynd i’r un cyfeiriad ac un ffordd yn wynebu’r ffordd arall, sy’n darparu cyfleoedd i oddiweddyd i’r ceir sy’n teithio ar y ddwy ffordd sydd ochr yn ochr, ond yn gwahardd goddiweddyd ar y ffordd sengl. Gellir cyfnewid y rhain ar wahanol bwyntiau ar hyd y ffordd, lle bo hynny’n bosibl, sy’n caniatáu goddiweddyd i’r naill gyfeiriad a’r llall. 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafodaethau yn y Cyfarfod Llawn

Mae’r drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn am yr A487 ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad wedi canolbwyntio ar gynlluniau i ddarparu ffordd osgoi a phont Dyfi, a drafodir uchod.

Ar 4 Ebrill 2014, cododd Elin Jones AC y mater o ddiogelwch ar yr A487 o amgylch yr ysgol yn Llanarth, gan awgrymu nad yw’n briodol cael terfyn cyflymder o 40mya ar gefnffordd ger ysgol.  Cyfeiriodd y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd at arolwg o ysgolion ar y gefnffordd gan ddweud bod hyn yn un o’r materion y byddai’n ei ystyried.

Y Pwyllgor Deisebau

Trafododd y Pwyllgor Deisebau yn y Pedwerydd Cynulliad ddeiseb yn galw am “[d]erfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion”. Trafodwyd y ddeiseb am y tro cyntaf ym mis Hydref 2012 a chafodd ei chau ym mis Medi 2013 ar ôl cael cadarnhad gan y Gweinidog ar y pryd bod bwriad i gyflwyno terfyn cyflymder o 40mya yn gynnar yn 2014. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.